Dyddiad yr Adroddiad

06/02/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202300621

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr T nad oedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cydnabod nac ymateb i’w gŵyn am goed.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cydnabod unrhyw un o lythyrau Mr T ac nad oedd wedi cofnodi ei bryderon fel cwyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad ysgrifenedig i Mr T am beidio ag ymateb i’w lythyrau, i gynnal adolygiad o’i broses fewnol ac i sicrhau bod unrhyw fethiannau yn y system a nodwyd yn cael sylw er mwyn atal hyn rhag digwydd eto, ac i gyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 2 o fewn 4 wythnos.