Dyddiad yr Adroddiad

02/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202307944

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss P fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi methu ag ymateb i’w chŵyn am ei wrthodiad i archwilio cyflwr tamprwydd a llwydni ei heiddo rhent preifat i benderfynu a allai gymryd camau.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu rhoi ymateb i gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss P. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss P i ymddiheuro am y methiant ac i gyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 1 o fewn pythefnos.