Dyddiad yr Adroddiad

10/31/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202305628

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi methu darparu bin gwastraff newydd iddo ac nad oeddent wedi mynd i’r afael â’i bryderon yn llawn yn eu hymateb i’w gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Cyngor yn adlewyrchu’n briodol y pryderon a godwyd gan A, a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr A am fethu mynd i’r afael yn briodol â’i bryderon a darparu ymateb pellach i gŵyn Mr A o fewn 3 wythnos.