Cwynodd Mrs Q nad oedd Cyngor Bro Morganwg wedi ymateb i’w chŵyn ynghylch ei wrthodiad i ddarparu bagiau gwastraff porffor.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cofnodi cwyn Mrs Q fel cais am wasanaeth a phan oedd ymdrechion i gysylltu â hi dros y ffôn yn aflwyddiannus, methodd ag anfon llythyr iddi. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs Q. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gofnodi cwyn yn ffurfiol ac, o fewn pythefnos, ymateb iddi. Bydd yn cynnwys ymddiheuriad a chynnig o iawndal ariannol o £50 am yr amser a’r drafferth o wneud y gŵyn.
Cwynodd Mr X am yr oedi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wrth ad-dalu hawliad am eiddo coll ei nain.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd wrth ad-dalu hawliad Mr X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd, o fewn wythnos, i gynnig ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi.