Dyddiad yr Adroddiad

08/14/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202303092

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L, er gwaethaf cyflwyno nifer o gwynion i Gyngor Bro Morgannwg ers mis Medi 2022, nad oedd wedi cael ymateb ac nid oedd unrhyw un wedi cyfathrebu â hi.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i gwynion Ms L ym mis Medi 2022, nid oedd wedi ymateb i’w chwyn ddiweddaraf dyddiedig Gorffennaf 2023. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad i Ms L ac eglurhad am yr oedi cyn ymateb i’w chŵyn ddiweddaraf, cyhoeddi ymateb i’r gŵyn, a darparu manylion cyswllt ar gyfer yr adran gwynion o fewn 30 diwrnod gwaith.