Dyddiad yr Adroddiad

02/05/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202307900

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr K fod Cyngor Bro Morgannwg wedi gwrthod derbyn ei gŵyn am ymosodiad geiriol a chorfforol gydag aelod o staff a ddigwyddodd mewn canolfan ailgylchu.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 1, y canlyniad oedd gwrthod ymchwilio i’r gŵyn gan ei bod yn cael ei hystyried gan y ganolfan ailgylchu. Fodd bynnag, gwrthododd y ganolfan ailgylchu gyflwyno ymateb i’r gŵyn gan fod y gŵyn wedi’i chyflwyno i’r Cyngor. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr K. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr K i ymddiheuro am fethu ymchwilio i’w gŵyn a chyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 2 o fewn pythefnos.