Dyddiad yr Adroddiad

09/06/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202303141

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss F am y ffordd yr oedd Cymdeithas Tai Hafod wedi delio â’i chwyn am laswellt oedd wedi gordyfu.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Gymdeithas Tai wedi ymateb i bryderon Miss F, ond wedi methu cofnodi ei phryderon fel cwyn ffurfiol. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd i Miss F.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i ysgrifennu at Miss F i ymddiheuro am y methiant i gofnodi ei phryderon yn briodol ac i anfon ymateb ffurfiol i’r gŵyn cyn pen 2 wythnos.