Dyddiad yr Adroddiad

08/10/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Ymdriniaeth â chais cynllunio (methiant i hysbysu'r rhai a effeithir)

Cyfeirnod Achos

202303005

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr M nad oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Mawrth am gais cynllunio.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ymateb i gŵyn Mr M. Dywedodd fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mr M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr M am beidio ag ymateb i’w gŵyn ac i roi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.