Cwynodd Ms B am gamweinyddu gan Gyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) mewn perthynas â chaniatâd cynllunio Datblygiad Un Blaned. Aeth yr Ombwdsmon ati i ymchwilio i weld a oedd y cyngor wedi dilyn y broses briodol cyn cyflwyno Hysbysiad Gorfodi i Ms B mewn perthynas â chaniatadau ar ei thir ar 9 Medi 2021. Fe wnaeth hefyd ystyried a oedd y Cyngor wedi ymchwilio’n briodol i gŵyn Ms B ynglŷn â’r broses o gyhoeddi’r hysbysiad gorfodi, a oedd yn golygu nad oedd ateb llawn erioed wedi dod i law.
Mewn ymateb i ymchwiliad yr Ombwdsmon, darparodd y Cyngor wybodaeth a oedd yn ei gwneud yn glir nad oedd polisi na phroses fewnol ar waith yn 2021. Fe wnaeth hefyd ddarparu sylwadau eraill yn ymwneud â heriau gyda’r gwaith o orfodi a monitro’r polisi Datblygiad Un Blaned. Nid oedd yr wybodaeth hon wedi cael ei datgelu i Ms B fel rhan o ymchwiliad y Cyngor i’r gŵyn.
O ran y mater cyntaf, roedd yr Ombwdsmon o’r farn na fyddai’n bosib sefydlu tystiolaeth o gamweinyddu lle nad oedd polisi/proses leol ar waith. Mewn perthynas ag ail bwynt y gŵyn, cytunodd y Cyngor i gynnig ymddiheuriad a darparu’r wybodaeth bellach i Ms B nad oedd wedi cael ei ddatgelu yn ystod ei ymchwiliad i’r gŵyn. Cytunodd hefyd i gynnig iawndal ariannol o £250 i Ms B mewn perthynas â sut roedd wedi delio â’r gŵyn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y cam hwn yn briodol.
Rhoddodd yr Ombwdsmon y gorau i’r ymchwiliad ar y sail hon.