Achos yn Erbyn

Pobl

Pwnc

Ymdrin â chwynion

Cyfeirnod Achos

202306687

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Pobl wedi methu ag ymateb i’r cwynion a wnaeth dros y ffôn. Dywedodd Pobl nad oedd tystiolaeth ar eu system bod Ms A wedi cwyno.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd Pobl i gysylltu â Ms A i gadarnhau ei chŵyn a darparu ymateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith.