Dyddiad yr Adroddiad

20/05/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Ymdrin â chwynion

Cyfeirnod Achos

202410082

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Ar ôl iddo ddatrys ei chwyn yn gynnar yn 2023, bu i Ms A gwyno na fu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) gysylltu â hi i gadarnhau canlyniad y broses o ystyried achos ei thad o dan Fframwaith Cenedlaethol GIG Cymru (a sefydlwyd i ymchwilio i achosion o drosglwyddiad nosocomiaidd (haint a drosglwyddir o un person i berson arall mewn lleoliad gofal iechyd) COVID-19).

Bu i’r Ombwdsmon asesu’r achos. Darparodd y Bwrdd Iechyd dystiolaeth a oedd yn dangos bod achos tad Ms A wedi’i adolygu, ond dywedodd nad oedd wedi cysylltu â Ms A i gadarnhau’r canlyniad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i roi ymateb ffurfiol i Ms A mewn cysylltiad â’r broses o ystyried achos ei thad o dan Fframwaith Cenedlaethol GIG Cymru. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ymddiheuro i Ms A am yr oedi cyn darparu ymateb, yn ychwanegol at ei ymateb blaenorol i ddatrys y gŵyn yn gynnar, ac i egluro pam y cafwyd oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau hyn erbyn 9 Mehefin 2025.