Dyddiad yr Adroddiad

22/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Fynwy

Pwnc

Ymdrin â chais cynllunio (arall)

Cyfeirnod Achos

202501221

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Fynwy (“y Cyngor”) heb ddarparu’r gwasanaeth pwrpasol y talodd amdano am gyngor cyn gwneud cais cynllunio. Dywedodd nad oedd prosesau wedi’u dilyn, nad oeddent yn darparu’r gwasanaethau a restrwyd ac na chafodd ymateb i’w ohebiaeth, a arweiniodd at oedi. Canfu’r Ombwdsmon, ym mis Medi a Hydref 2023, nad ymatebodd y Cyngor i ohebiaeth gyson Mr A, ac ni fodlonodd yr amseroedd ymateb a nodwyd yn ei bolisi am gyngor cyn gwneud cais cynllunio. Achosodd y camweinyddu hwn anghyfleustra a rhwystredigaeth. Fe wnaeth y Cyngor gydnabod hyn ac ymddiheurodd i Mr A yn ei ymateb i’w gŵyn ffurfiol.
Yn ogystal, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig taliad gwneud iawn o £350 i Mr A, sef y ffi a dalwyd am y gwasanaeth am gyngor cyn gwneud cais cynllunio.