Dyddiad yr Adroddiad

03/30/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Y dreth cyngor

Cyfeirnod Achos

202208234

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L fod Cyngor Gwynedd wedi achosi straen diangen iddo o ganlyniad i’r cynnydd yn ei Dreth Gyngor. Cwynodd hefyd, er iddo godi pryderon gyda’r Cyngor, nad oedd wedi cael ymateb ffurfiol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi gweithredu yn unol â’i drefn gwyno statudol a bu oedi sylweddol cyn rhoi ymateb ffurfiol i Mr L. Dywedodd fod hyn wedi achosi mwy o rwystredigaeth i Mr L.

Yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor y byddai’n rhoi ymddiheuriad ac ymateb ffurfiol i Mr L o fewn 30 diwrnod gwaith.