Cwynodd Mr A fod Cyngor Gwynedd (“y Cyngor”) wedi codi treth gyngor premiwm yn annheg ar eiddo gwag yr oedd yn ei werthu. Dywedodd fod gwerthiant y tŷ wedi’i ohirio oherwydd camgymeriadau gweinyddol a wnaed gan y Cyngor yn ystod chwiliadau’r eiddo.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mr A, gan ddarparu amserlen o’r dosbarthiadau treth gyngor a roddwyd ar yr eiddo. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd ymateb y Cyngor i’r gŵyn yn mynd i’r afael â’r pryder bod oedi gyda gwerthu’r eiddo o ganlyniad i’w gamgymeriadau gweinyddol. Felly roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod penderfyniad y Cyngor i ddyfarnu cyfradd treth gyngor premiwm ar yr eiddo wedi’i wneud heb ymchwilio i weld a oedd ar fai am yr oedi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr A o fewn 3 wythnos, ymchwilio i’r oedi i’r chwiliadau eiddo, penderfynu a ddylai canlyniad yr ymchwiliad arwain at ailasesiad o ddyfarniad treth y cyngor, a darparu ymateb diweddaraf i’r gŵyn.