Dyddiad yr Adroddiad

06/08/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Y dreth cyngor

Cyfeirnod Achos

202301025

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am ymdrechion y Cyngor i gael bil Treth Cyngor mewn cysylltiad ag ystad yr oedd hi’n gweithredu fel ysgutor ar ei chyfer. Cwynodd fod y Cyngor wedi methu delio â’i chŵyn yn briodol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ymateb i Ms A, a bod rhywfaint o’r cyfathrebu rhwng Ms A a’r Cyngor yn amhriodol o ran tôn neu gynnwys. Achosodd hyn i Ms A deimlo nad oedd ei chŵyn wedi cael sylw priodol a dywedodd fod hyn wedi effeithio arni’n ariannol, ac wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ac wrth ddatrys cwyn Ms A, cytunodd y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith, yn penodi uwch reolwr yn annibynnol ar yr adran Treth Cyngor i ymchwilio i’r gŵyn ac y byddai ei ymateb yn nodi beth oedd rhwymedigaethau Ms A, beth oedd y Cyngor yn ei wneud ac a oedd gwallau wedi’u canfod er mwyn ystyried a oedd ad-daliad neu iawn ariannol yn deilwng.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd