Dyddiad yr Adroddiad

06/07/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Y dreth cyngor

Cyfeirnod Achos

202301005

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs K fod Cyngor Gwynedd wedi methu talu’r Lwfans Gwres/Costau Byw statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i ystad ei chwaer. Cwynodd Mrs K hefyd fod y Cyngor wedi cyflwyno gwŷs i ystad ei diweddar chwaer am y Dreth Cyngor heb ei thalu, er gwaethaf rhwystr ar adennill wrth aros i ddatrys profiant, ac am anallu’r Cyngor i ystyried yn briodol materion heb eu datrys a chyfathrebu â hi, a oedd wedi cynnwys delio â dau uwch swyddog.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mrs K wedi cael ymateb pellach i’w chŵyn gan y Pennaeth Gwasanaeth a bod camau gweithredu’r Cyngor wedi peri anghyfleustra iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad i Mrs K am yr oedi cyn darparu ymateb pellach i’w chŵyn, esboniad am yr oedi, ac i ddarparu ymateb pellach i gŵyn Mrs K gan Bennaeth y Gwasanaeth, o fewn 4 wythnos.