Dyddiad yr Adroddiad

02/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Y dreth cyngor

Cyfeirnod Achos

202408996

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y camau a gymerwyd gan Gyngor Abertawe ar ôl iddo gael ei hysbysu ei fod wedi rhoi band anghywir ar gyfer ei eiddo, a arweiniodd at dalu gormod o Dreth Gyngor. Dywedodd na weithredwyd ar ei gais ar-lein am ad-daliad. Roedd Mr A yn anhapus hefyd â’r ymateb a gafodd gan y Cyngor i’w gŵyn, ac am y prinder gwybodaeth a gafodd am y taliadau i’w gyfrif.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb yn briodol i’r wybodaeth a gafodd am fand yr eiddo, a’i fod wedi ad-dalu’r gordaliad i Mr A. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor wedi ymateb i gais Mr A am esboniad o’r taliadau a’r datganiadau a gyhoeddwyd, ac nid oedd yn gallu egluro beth oedd wedi digwydd i gais ar-lein Mr A am ad-daliad. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai’n rhoi manylion i Mr A o’r taliadau o fewn 2 wythnos, ynghyd ag eglurhad o’r datganiadau a gyhoeddwyd, a chadarnhad o’r camau y byddai’n eu cymryd i sicrhau bod pob cais ar-lein o hyn ymlaen yn cael eu cofnodi ar y cyfrifon perthnasol.