Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod cyn aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Tref y Waun (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad.
Canfu’r ymchwiliad fod ymddygiad y Cyn-Aelod yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a).
Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor Sir.
Canfu Pwyllgor Safonau’r Cyngor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 6(1)(a). Penderfynodd y Pwyllgor y dylid ceryddu’r Cyn-Aelod, gan nodi mai dyna’r unig sancsiwn oedd ar gael iddo o ystyried bod y Cyn-Aelod wedi ymddiswyddo.