Cynhaliodd yr Ombwdsmon ymchwiliad yn erbyn Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) i ystyried a wnaeth yr Aelod ei gamarwain yn ystod ymchwiliad parhaus.
Ystyriodd yr Ombwdsmon a allai’r Aelod fod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Roedd yr Aelod wedi cael ei gyfweld fel tyst mewn ymchwiliad parhaus. Yn dilyn ei gyfweliad cychwynnol, gofynnwyd am wybodaeth gan drydydd partïon a oedd yn nodi bod y wybodaeth a ddarparwyd gan yr Aelod yn y cyfweliad yn anghywir. Ar ôl hynny, cafodd yr Aelod ei gyfweld ar yr ail achlysur a chan ei bod yn ymddangos bod anghysondebau yn r wybodaeth a ddarparwyd gan yr Aelod, dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad.
Darparodd yr Aelod ddatganiad llawn i’r Ombwdsmon mewn ymateb i’r honiad. Derbyniodd yr Ombwdsmon yr esboniadau a ddarparwyd gan yr Aelod ynghylch yr anghysondebau yn ei 2 gyfweliad. Er bod yr Ombwdsmon o’r farn y gallai’r Aelod fod wedi bod yn fwy clir yn ei gyfweliadau, nid oedd o’r farn bod ymgais fwriadol ar ran yr Aelod i ddarparu gwybodaeth gamarweiniol yn ystod yr ymchwiliad. Felly, ni chanfu’r Ombwdsmon dystiolaeth o dorri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.