Dyddiad yr Adroddiad

10/31/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202107843

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd swyddfa’r Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Gwynedd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.  Honnwyd bod yr Aelod wedi ymddwyn yn amhriodol pan ymatebodd yn Almaeneg i ohebiaeth a gafodd yn Gymraeg.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 4(a) – Rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo’u rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd.
  • 4(b) – Rhaid i aelodau ddangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt.
  • 6(1)(a) – Rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu awdurdod.

Cyfaddefodd yr Aelod ei bod wedi ymateb yn Almaeneg i 2 ebost a ysgrifennwyd yn Gymraeg.  Mynegodd edifeirwch a gofid am ei gweithredoedd.  Dywedodd nad oedd yn ymwybodol bod gwasanaethau cyfieithu’r Cyngor ar gael iddi ar gyfer y math hwn o ohebiaeth.  Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad, o ystyried hyd gwasanaeth yr Aelod, y dylai fod wedi gwybod bod gan y Cyngor wasanaeth cyfieithu ac y byddai ymateb yn Almaeneg yn cael ei ystyried yn amhriodol.  Felly, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod ymddygiad yr Aelod yn arwydd o dorri paragraff 4(a), 4 (b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad bod yr Aelod wedi torri paragraffau 4(a), 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.  Yn unol â hynny, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylai’r Aelod gael ei hatal am 1 mis, ei bod yn ofynnol iddi fynychu hyfforddiant ynghyd â darparu ymddiheuriad ysgrifenedig i’r Achwynydd o fewn 3 wythnos.  Hefyd, argymhellodd y Pwyllgor Safonau y dylai’r Cyngor ystyried cynorthwyo’r Aelodau pan fyddant yn derbyn gohebiaeth mewn iaith nad ydynt yn ei deall, naill ai drwy ddefnyddio ei staff ei hun neu drwy gyfeirio’r Aelod at ddarparwr gwasanaeth cyfieithu perthnasol.