Dyddiad yr Adroddiad

03/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202207759

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs R am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ŵr, Mr R, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rhwng Mai a Rhagfyr 2021. Cwynodd yn benodol am yr oedi annerbyniol rhwng apwyntiad ymgynghori ar 4 Mai a’r llawdriniaeth coluddyn a ddigwyddodd ar 26 Gorffennaf. Cwynodd fod Mr R wedi cael ei ryddhau’n amhriodol o’r ysbyty ar 29 Tachwedd gyda meddyginiaeth gwrth-gyfogi drwy’r geg, er na allai fwyta nac yfed. Cwynodd Mrs R fod oedi amhriodol wedi bod gyda gweinyddu meddyginiaeth i Mr R pan ddaeth i’r Adran Achosion Brys ar 9 Rhagfyr. Cwynodd Mrs R hefyd, pan oedd Mr R yn glaf mewnol ym mis Rhagfyr, bod opsiynau anghymharus rhwng y timau Oncoleg a Llawdriniaeth wedi achosi rhwystredigaeth a dryswch i Mr R a’i deulu gan arwain yn y pen draw at iddo fod heb faeth am 11 diwrnod.

Casglodd yr ymchwiliad fod oedi wedi bod cyn i Mr R gael llawdriniaeth coluddyn a cadarnhawyd y gŵyn hon. Casglodd fod Mr R wedi derbyn asesiad a thriniaeth briodol ar 29 Tachwedd ac ni chadarnhawyd y gŵyn hon. Penderfynodd yr ymchwiliad hefyd fod oedi wedi bod gyda gweinyddu meddyginiaeth i Mr R ar 9 Rhagfyr, methiannau gydag asesu a rheoli maeth Mr R, ac y dylai fod cydweithrediad agosach wedi bod rhwng y staff proffesiynol a fu’n rhan o ofalu amdano. Cadarnhawyd y cwynion hyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mrs R am y methiannau a thalu iawndal ariannol o £1000 a hefyd i rannu’r adroddiad â chlinigwyr perthnasol, atgoffa staff o bwysigrwydd cydweithredu’n agos ar achosion cymhleth ac atgoffa staff bod angen cwblhau sgrinio maeth ar yr amser priodol ac mor aml ag y bo’n briodol. Cytunodd hefyd i drefnu bod yr adroddiad yn cael ei drafod mewn cyfarfod llywodraethu clinigol priodol, i adolygu ei hyfforddiant i staff ar sgrinio maeth a chyfeirio cleifion at wasanaethau dieteteg, ac i roi diweddariad ar weithrediad y canllawiau newydd ar diwmor malain yn y coluddyn.