Dyddiad yr Adroddiad

03/26/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202302012

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ŵr (Mr A) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”). Roedd yr ymchwiliad wedi ystyried a ddylai Mr A fod wedi cael ei gyfeirio’n gynt at lawfeddygon fasgwlaidd pan gyflwynodd gyda phoen abdomen difrifol, teimlo’n sâl a cholli pwysau cysylltiedig o fis Medi 2020 ymlaen.

Casglodd yr ymchwiliad y dylai Mr A fod wedi cael ei archwilio’n gynt am isgaemia’r perfedd (pan fydd llif y gwaed i ac o’r perfedd yn arafu neu’n stopio) drwy gromatograffi cyfrifiadurol (“sgan CT” – defnyddio pelydr-X a chyfrifiadur i greu llun o du mewn y corff), angiograffi (sgan CT ynghyd â chwistrellu lliw arbennig i greu lluniau o rydwelïau gwaed a meinweoedd) a phe bai hynny wedi digwydd, y byddai diagnosis wedi cael ei wneud. Mae’n bosib y gallai Mr A fod wedi cael diagnosis pendant a chael ei gyfeirio at y Llawfeddygon Fasgwlaidd mor gynnar â Medi 2020. Ni chyfeiriwyd Mr A at y Llawfeddygon Fasgwlaidd tan fis Rhagfyr 2021. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ystyrlon i Mrs A am y methiannau a ganfuwyd. Cytunodd hefyd i gyflwyno canfyddiadau’r Ombwdsmon i’w gyfarfod Morbidrwydd a Marwoldeb, gan atgoffa staff i sicrhau bod diagnoses anghyffredin yn cael eu hystyried mewn achosion parhaus heb ddiagnosis pendant ac mai rôl y radiolegydd yw darparu adroddiad gyda’r canfyddiadau a, lle bo’n bosib, gyda diagnosis posib, ond mai’r tîm clinigol sy’n gyfrifol am sefydlu diagnosis a thriniaeth mai ganddyn nhw y mae’r holl wybodaeth sy’n aml ddim ar gael i radiolegydd.