Dyddiad yr Adroddiad

03/15/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202205408

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei wraig, Mrs A, gan y Bwrdd Iechyd ar ôl cael ei derbyn i’r ysbyty ar 19 Tachwedd 2021. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a gafodd Mrs A ei thrin yn briodol ac a dderbyniodd ddigon o gymorth yn yr ysbyty; yn benodol, a ellid bod wedi osgoi ei hymgais pellach i gymryd gorddos ac a oedd y penderfyniad i’w rhyddhau’n briodol. Fe wnaethom hefyd ymchwilio i weld a gafodd Mrs A, ar ôl ei rhyddhau, ddigon o gymorth gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (“CMHT”) a’r Tîm Trin Gartref Datrys Argyfwng (“CRHTT”) ar 22/23 Tachwedd, ac a oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn unol â’r canllawiau perthnasol ar drin cwynion.

Penderfynodd yr ymchwiliad fod y rheolaeth glinigol o Mrs A yn ystod ei harhosiad cyntaf yn yr ysbyty, a’r penderfyniad i’w rhyddhau ar 21 Tachwedd, ar y cyfan yn briodol. Fodd bynnag, roedd elfennau o bryder nad oedd Mrs A wedi cael cyfle ychwanegol i ymgysylltu â’r Tîm Cyswllt Iechyd Meddwl ar 20 Tachwedd a’i bod wedi cael ei chynghori i beidio â mynd ar ward iechyd meddwl arbenigol oherwydd prinder gwelyau, oedd yn ddigon i gyfiawnhau derbyn y rhan yma o’r gŵyn yn rhannol. Penderfynodd yr ymchwiliad fod y cymorth a gynigiwyd gan y CMHT a’r CRHTT ar y cyfan yn briodol a chyson â gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol. Ni chadarnhawyd y rhan yma o’r gŵyn felly. Yn olaf, penderfynodd er bod ymchwiliad y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, yn dechnegol, heb ddisgyn y tu allan i baramedrau amser y canllawiau trin cwynion, roedd yr ymchwiliad yn un estynedig a chollwyd cyfleoedd i ymateb yn gliriach a mwy trylwyr. Felly cadarnhawyd y rhan yma o’r gŵyn yn rhannol.

Fe wnaethom argymell bod y Bwrdd Iechyd, o fewn mis i’r adroddiad terfynol, yn ymddiheuro wrth Mr a Mrs A am y materion a ganfuwyd, yn tynnu sylw’r holl staff sy’n gweithio yn yr adrannau iechyd meddwl (yn yr ysbyty a’r gymuned) at ein hadroddiad a’u hatgoffa na ddylid annog cleifion i beidio â chysylltu â’r gwasanaethau cymorth perthnasol oherwydd prinder gwelyau. Fe wnaethom hefyd argymell bod y Bwrdd Iechyd yn atgoffa’r holl staff trin cwynion o bwysigrwydd adnabod tystiolaeth heblaw am gofnodion meddygol (fel recordiadau ffôn) lle’r oedd yn berthnasol, cyn gynted â phosib, gan sicrhau y cyfeirir at y dystiolaeth a’i bod yn cael ei chadw drwy gydol y broses gwynion.