Dyddiad yr Adroddiad

03/15/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200680

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs C am safon y gofal a roddwyd i’w llys-dad, Mr A, yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Yn benodol, cwynodd na roddwyd presgripsiwn o feddyginiaeth gwrthfiotig i Mr A ar 15 Ebrill ac na ddylai fod wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty ar 19 Ebrill. Cwynodd hefyd am gyfarpar annigonol ar ôl ei ryddhau a diffyg mewnbwn ffisiotherapi pan gafodd Mr A ei ryddhau i fynd adref o’r diwedd.

Ar sail cyngor meddygol yn dilyn adolygu’r cofnodion clinigol, casglodd yr ymchwiliad nad oedd unrhyw arwydd bod Mr A yn dioddef o UTI oedd angen triniaeth gwrthfiotig ar ei gyfer ar 15 Ebrill, yn unol â chanllawiau NICE. Felly er y diffyg gweinyddol a olygodd na chafodd gofnodion meddygol Mr A eu trosglwyddo gyda fo ar ôl 15 Ebrill, ac felly nad oedd y feddyginiaeth gwrthfiotig wedi’i rhoi, ni achosodd hyn unrhyw niwed iddo. Dylai Mr A fod wedi cael ei adolygu’n ffurfiol gan feddyg cyn ei ryddhau ar 19 Ebrill ac roedd y ffaith na ddigwyddodd hynny’n fethiant. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, oherwydd nad oedd unrhyw arwydd ei fod yn dioddef o UTI ac angen triniaeth gwrthfiotig, roedd rhyddhau Mr A yn glinigol rhesymol. Roedd yr asesiadau therapi galwedigaethol a wnaed cyn ei ryddhau, a’r cyfarpar oedd wedi’i ddarparu, yn rhesymol. Nododd yr ymchwiliad, er na chyfeiriwyd Mr A i gael ffisiotherapi yn y gymuned ar ôl ei ryddhau i fynd adref ym mis Mai, ei fod wedi parhau i dderbyn therapi galwedigaethol ac wedi derbyn ymarferion ffisiotherapi perthnasol i gryfhau ei sgiliau gweithredol yn ei gartref. Ni chadarnhawyd y cwynion.