Dyddiad yr Adroddiad

03/15/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202301971

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyfathrebu â’r teulu pan oedd ei ddiweddar wraig yn glaf mewnol o 1 Mehefin 2022 ymlaen, o ystyried bod gan y teulu Bŵer Atwrnai Arhosol (LPA). Roedd gan Mr A hefyd bryderon am y newidiadau ar belydr-X o ysgwydd ei wraig ar ôl ei thorri ac a achoswyd hyn wrth i’w wraig gael ei symud yn ddiofal gan staff y Bwrdd Iechyd.
O adolygu cofnodion meddygol Mrs A, casglodd yr Ombwdsmon ei bod yn siomedig nad oedd lefel yr ymgysylltu a wnaed â’r teulu rhwng 3 Mehefin a’r 12 Gorffennaf yn awgrymu bod eu LPA cyfreithiol wedi cael ei ystyried fel y dylai, a goblygiadau hyn, yn enwedig o ystyried prognosis gwael Mrs A nes ymlaen. Byddai hyn wedi achosi anghyfiawnder i’r teulu. Nid oedd yr ystyriaeth amlwg o’r LPA yn y cofnodion wedi digwydd tan 13 Gorffennaf.

Nododd yr Ombwdsmon sylwadau’r Bwrdd Iechyd nad oedd unrhyw beth i awgrymu bod eu gofal wedi cael effaith niweidiol ar doriad ysgwydd Mrs A. Roedd y Bwrdd Iechyd hefyd wedi cydnabod bod cyfarfod ag ymgynghorydd orthopaedig arall i ystyried pelydrau-X Mrs A wedi cael ei awgrymu, ond yn anffodus heb ddigwydd. Ychwanegodd fod ei Dîm Orthopaedig wedi ymddiheuro am hyn ac am yr argraff wael a roddwyd i’r teulu o ganlyniad.

Fel rhan o setliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at y teulu i drefnu cyfarfod gyda nhw a’r Cyfarwyddwr Clinigol Trawma ac Orthopaedeg. Byddai’r cyfarfod yn trafod y pelydrau-X ac yn ateb cwestiynau a allai fod gan y teulu. Hefyd, byddai’r broses a’r amserlen i roi’r lluniau pelydr-X i’r teulu’n cael eu rhoi i’r teulu. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i roi manylion y newidiadau i’r broses LPA a oedd wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i gŵyn Mr A. Byddai hefyd yn adolygu sut yr oedd yn cofnodi pwerau LPA i’w gwneud yn fwy gweledol ar gofnod meddygol claf a hefyd yn adnabod system i sicrhau bod dogfennau LPA yn cael eu hôl-ddilyn a’u bod yn bresennol ar y cofnodion. Yn olaf, os nad oedd yn gwneud hynny’n barod, byddai’r Bwrdd Iechyd yn trefnu hyfforddiant priodol ar bwerau LPA i staff, a’u perthnasedd i benderfyniadau clinigol.