Dyddiad yr Adroddiad

03/14/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202207136

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

. Roedd y gŵyn yn ymwneud â’r gofal a roddwyd i Mrs C, claf tetraplegaidd, yn ystod arhosiad yn Ysbyty Prifysgol Cymru (“yr Ysbyty”) yn Ebrill / Mai 2022.

Ni ddaeth yr Ombwdsmon o hyd i unrhyw bryderon am y gofal meddygol a roddwyd i Mrs C ac ni chadarnhaodd y gŵyn am y penderfyniad i’w rhyddhau. Fodd bynnag, casglodd yr ymchwiliad y gallai gwybodaeth gliriach am ei gofal parhaus fod wedi cael ei roi i’w theulu ac i’w gofalwyr wrth ei rhyddhau. Cafodd y gŵyn am y trefniadau rhyddhau felly ei derbyn i’r graddau llai hynny.
Fe wnaeth yr ymchwiliad hefyd ganfod anghysondebau o ran sut y cafodd anghenion gofal sylfaenol Mrs C eu hasesu a’u cofnodi yn y cynlluniau gofal. Nid oedd gwybodaeth fanwl am anghenion a dewisiadau Mrs C, wrth ei derbyn, wedi cael eu trosglwyddo’n iawn i’r cynlluniau gofal bob tro. O’r herwydd nid oedd y gofal wedi cael ei deilwrio i anghenion penodol Mrs C bob tro. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o’r gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i’r teulu ac yn rhoi cyfle iddynt rannu eu profiadau â staff y Bwrdd Iechyd. Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd ei fod ar hyn o bryd yn gwerthuso sut i wella ei wasanaeth gofal unigol i gleifion ag anghenion corfforol cymhleth. Cytunodd i gwblhau hyn o fewn pedwar mis a rhannu copi o’r gwerthusiad, ac unrhyw gynllun gweithredu cysylltiedig, â swyddfa’r Ombwdsmon. Roedd copi o adroddiad yr Ombwdsmon hefyd i’w roi i Benswyddog Cydraddoldeb y Bwrdd Iechyd.