Dyddiad yr Adroddiad

02/23/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202105722

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs Y am ofal a thriniaeth ei mam, Mrs A gan y Bwrdd Iechyd yn ystod arhosiad Mrs A yn Ysbyty Maelor Wrecsam rhwng 22 Gorffennaf a 4 Awst 2020. Cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi trosglwyddo Mrs A i ward ddynodedig COVID-19 i gael triniaeth gan drin diffyg anadl a haint Mrs A yn amhriodol. Cwynodd ymhellach fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi meddyginiaeth anghywir i Mrs A ar 31 Gorffennaf, wedi cymryd camau amhriodol i fynd i’r afael â dolur ar drwyn Mrs A ac wedi tynnu triniaeth feddygol weithredol yn ôl yn amhriodol ar ddiwedd oes Mrs A. Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi gofal o safon resymol pan nad oedd wedi trin haint Mrs A yn briodol ac felly cafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi ymddwyn yn rhesymol wrth drosglwyddo Mrs A i ward ddynodedig COVID-19 i gael triniaeth gan drin diffyg anadl a haint Mrs A. Canfu hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gofal rhesymol ynghylch y dolur ar drwyn Mrs A ac ar ddiwedd oes Mrs A. Yn olaf, canfu fod presgripsiwn y Bwrdd Iechyd o feddyginiaeth Mrs A ar 31 Gorffennaf yn rhesymol ond nododd fod y dogfennau a oedd yn cofnodi’r penderfyniad hwnnw yn is na’r safonau. Felly ni chadarnhawyd yr elfennau hyn o’r gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd ar argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs Y am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac i fodloni ei hun bod ei Gynllun Gofal Rheoli/Atal Briwiau Pwyso ei hun fel arfer yn cael ei ddilyn a’i gofnodi’n gywir drwy gynnal archwiliad o gleifion sy’n cael eu derbyn gydag achosion. Os canfyddir diffygion, dylai’r Bwrdd Iechyd gymryd camau priodol i sicrhau y cydymffurfir â’i Gynllun Gofal ei hun.