Dyddiad yr Adroddiad

03/13/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202104884

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a roddwyd iddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”).

Roedd yr ymchwiliad wedi ystyried a oedd methiannau yn y gofal gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer clefyd coden y bustl Mrs B a’i dŵr poeth ‘tawel’ (pan fydd cynnwys y stumog yn codi’n ôl i’r oesoffagws ac i’r laryncs).

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Mrs B ar gyfer ei chlefyd coden y bustl yn glinigol briodol.

O ran dŵr poeth tawel Mrs B, penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyfeirio Mrs B at uned arbenigol i gael archwiliadau pellach ar ôl gweld Gastroenterolegydd drwy’r GIG ar 5 Mehefin 2019. O ganlyniad, collodd Mrs B y dewis i benderfynu a oedd am fynd yn ei blaen i gael triniaeth breifat neu gael ei chyfeirio o dan y GIG i gael triniaeth. Oherwydd na threfnodd Gastroenterolegydd y GIG unrhyw ôl-apwyntiad, nid oedd gan Mrs B ddewis ond symud ymlaen i gael prawf dŵr poeth rhwystrol (i fesur hylif yn symud i fyny a lawr yr oesoffagws) a phrawf manometreg oesoffagws (i fesur y pwysau yn yr oesoffagws a’r falf sy’n gwahanu’r stumog a’r oesoffagws) yn breifat er mwyn cael diagnosis, a dyna a wnaeth yng Ngorffennaf 2019. Ystyriwyd bod colli dewis o ran triniaeth wedi achosi anghyfiawnder i Mrs B gan olygu ei bod wedi gorfod talu’n breifat am y profion. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn yn rhannol.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i anfon llythyr o ymddiheuriad ystyrlon at Mrs B am y methiannau hyn a thalu iawndal ariannol o £2300 am y prawf dŵr poeth rhwystrol a’r prawf manometreg oesoffagws a wnaed yn breifat fel y gallai gael diagnosis.