Dyddiad yr Adroddiad

03/20/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206426

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss O am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei mam, Mrs N, ar ôl ei derbyn i Ysbyty’r Grange ar 10 Awst 2021. Roedd Miss O yn arbennig o anhapus gyda diffyg gwybodaeth y staff am gyflwr syndrom Good ei mam, y diffyg cyfathrebu rhwng y staff a’i theulu am gyflwr / rhagolygon ei mam, y penderfyniad i dynnu triniaeth ei mam yn ôl a hithau ddim yn marw, a’r diffyg cyfrannu at ofal lliniarol ar ddiwedd bywyd ei mam.
Penderfynodd ymchwiliad yr Ombwdsmon er bod syndrom Good yn gyflwr prin, bod gan y clinigwyr a fu’n gofalu am Mrs N wybodaeth sylfaenol am y cyflwr ac wedi gofyn am gyngor gan dîm mwy arbenigol ar yr amser priodol. Penderfynodd yr Ombwdsmon hefyd fod y cyfathrebu â theulu Mrs N, ar y cyfan, wedi bod yn briodol a bod ei chyflwr / rhagolygon wedi cael eu cyfathrebu i’w theulu fwy nag unwaith.

Casglodd yr Ombwdsmon hefyd fod triniaeth wedi cael ei dynnu’n ôl ar yr adeg fwyaf priodol a bod Mrs N wedi derbyn gofal gan y Tîm Gofal Lliniarol ar yr amser cywir.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsman gŵyn Miss O.