Cwynodd Mr A a Mr B fod y Feddygfa wedi penderfynu peidio ag ymchwilio a rhoi ymateb o unrhyw sylwedd i’w cwyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y Feddygfa wedi penderfynu, yn annheg, bod y gŵyn allan o amser a’i bod wedi gwrthod ag ymchwilio a rhoi ymateb o unrhyw sylwedd i’r gŵyn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Feddygfa i ymchwilio a rhoi ymateb o sylwedd i bryderon Mr A a Mr B ac ymddiheuro am beidio â gwneud hynny y tro cyntaf. Cytunodd y Feddygfa i gymryd y camau hyn o fewn deufis.