Dyddiad yr Adroddiad

02/07/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol y tu allan i'r ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202307376

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms Y am y gofal yr oedd Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’i roi iddi. Cwynodd yn benodol am sylwadau a wnaed iddi pan gysylltodd â’r practis am ei symptomau a dywedodd nad oedd y Practis wedi rhoi cymorth priodol pan gysylltodd ynglŷn â rheoli poen oherwydd ei diagnosis o endometriosis ym mis Rhagfyr 2022 a mis Chwefror 2023. Cwynodd y dylai’r Practis fod wedi’i chyfeirio at ganolfan endometriosis trydyddol arbenigol, yn hytrach na’i chyfeirio at wasanaethau gynaecoleg i’w hasesu. Yn olaf, cwynodd Ms Y fod bylchau yn ei chofnodion, gan nad oedd dogfennau a anfonwyd ar ôl apwyntiad y tu allan i oriau arferol ac o ysbyty y tu allan i’r Bwrdd Iechyd yn bresennol. Dywedodd nad oedd yr ymateb i’r gŵyn a dderbyniodd yn mynd i’r afael â’r pryder hwn ac yn hytrach yn cyfeirio at ddogfennau hanesyddol.

Canfu’r asesiad o gŵyn Ms Y fod y gofal a roddwyd yn dilyn ei phryderon am reoli poen o fewn yr ystod ymarfer clinigol priodol. Nododd hefyd fod gan y Bwrdd Iechyd gontract gyda’r ganolfan endometriosis trydyddol ar gyfer atgyfeiriadau o’r gwasanaeth gynaecoleg ac roedd yn rhesymol nad oedd y Practis wedi ei chyfeirio’n uniongyrchol. Canfu’r asesiad hefyd nad oedd yr ymateb cychwynnol i gŵyn Ms Y wedi mynd i’r afael â’i phryder ynghylch pam fod dogfennau ar goll o’i chofnodion.

Cytunodd y Practis i roi ymateb pellach i gŵyn Ms Y i ymddiheuro am beidio â mynd i’r afael â’i phryder yn ei hymateb cychwynnol ac i fynd i’r afael â’i phryder am ddogfennau a oedd ar goll o’i chofnodion. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ffordd resymol o ddatrys cwyn Ms Y a chafodd ei chau ar y sail hon.