Dyddiad yr Adroddiad

03/13/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol y tu allan i'r ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202106970

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a roddwyd iddi gan Feddygfa (“y Feddygfa”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd yr ymchwiliad wedi ystyried a oedd y Feddygfa wedi rhoi diagnosis anghywir o symptomau Mrs B a arweiniodd at oedi gyda chael diagnosis o ddŵr poeth tawel (LPR) (pan fydd cynnwys y stumog yn codi i’r oesoffagws ac i’r laryncs) a chlefyd coden y bustl rhwng Hydref 2016 a Thachwedd 2018. Yn benodol, ystyriodd a oedd y Feddygfa wedi ei chyfeirio’n briodol ac amserol ac a oedd y Feddygfa wedi ymateb yn amserol a phriodol i weithwyr proffesiynol a ofynnodd am wybodaeth am gyflwr Mrs B.

Ystyriodd hefyd a oedd y Feddygfa wedi canslo apwyntiadau gyda Mrs B yn amhriodol. A ddylai fod wedi gweithredu mewn ymateb i’r effeithiau andwyol yr oedd Mrs B yn dioddef ohonynt o ganlyniad i feddyginiaeth, gan gynnwys a oedd wedi gwrthod derbyn rhestr o feddyginiaeth yr oedd Mrs B eisiau ei rhoi iddynt.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Mrs B gan y Feddygfa’n glinigol briodol. Ni chadarnhawyd cwyn Mrs B.