Dyddiad yr Adroddiad

02/13/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth glinigol y tu allan i'r ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202204525

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs C am y gofal a’r rheolaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Mr A, gan y Feddygfa (“y Feddygfa”) rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2021. Roedd yr Ombwdsmon wedi ymchwilio i weld a oedd oedi annerbyniol cyn gwneud apwyntiadau ac ymgyngoriadau dros y ffôn ar gyfer Mr A rhwng mis Mai 2021 a 23 Tachwedd 2021, ac a oedd ansawdd yr asesiad a gafodd Mr A ar 10 Awst 2021 yn briodol ac a ddylai diagnosis amgen o ganser fod wedi cael ei ystyried bryd hynny.

Cwynodd Mrs C hefyd am y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr A gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”). Ymchwiliodd yr Ombwdsmon a oedd yn briodol israddio atgyfeiriad “amheuaeth o ganser brys” (“USC”) Mr A a wnaed gan y Feddygfa ar 8 Medi 2021 i “brys”, ac a oedd oedi annerbyniol yn ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mrs C a’i hymdrechion i fynd ar drywydd yr ymateb.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd modd osgoi oedi wrth wneud apwyntiadau ac ymgyngoriadau dros y ffôn ar gyfer Mr A rhwng mis Mai 2021 a 23 Tachwedd 2021 oherwydd pandemig COVID-19, yn ogystal â system ffôn nad oedd yn gallu ymdopi â’r galw digynsail. Roedd ansawdd y 2 asesiad a gafodd Mr A ar 10 Awst a 7 Medi 2021 yn briodol ac nid oedd unrhyw reswm dros amau canser yn ystod yr asesiad cyntaf, gan israddio atgyfeiriad amheuaeth o ganser brys Mr A yn dilyn yr ail asesiad yn briodol ac yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cyn ymateb i gŵyn Mrs C, ac nad oedd hyn yn cyd-fynd â chanllawiau cenedlaethol, roeddent yn ei diweddaru’n rheolaidd ar y cyfan. Ymddiheurodd y Bwrdd Iechyd i Mrs C am yr oedi.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs C.