Dyddiad yr Adroddiad

09/08/2023

Achos yn Erbyn

Fferyllfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth glinigol y tu allan i'r ysbyty; Fferyllfa

Cyfeirnod Achos

202301034

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B wrth yr Ombwdsmon nad oedd hi wedi cael ymateb gan Fferyllfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Fferyllfa”) i gŵyn a wnaeth i’r Fferyllfa dan sylw ynghylch ei gwasanaeth presgripsiynau a danfon i’r cartref.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Mrs B wedi cael ymateb ffurfiol gan y Fferyllfa.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Fferyllfa ac er mwyn datrys cwyn Ms B roedd y Fferyllfa wedi cytuno i ymddiheuro i Ms B am fethu â phrosesu ei chwyn, i ymchwilio i’w chwyn ac i ymateb iddi yn ysgrifenedig cyn pen 20 diwrnod gwaith.