Dyddiad yr Adroddiad

02/23/2024

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol

Pwnc

Triniaeth glinigol y tu allan i'r ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202207672

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A am y driniaeth a gafodd gan y Practis ar ôl iddi fynd i apwyntiad brys oherwydd bod coron wedi syrthio allan. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd triniaeth ddeintyddol Ms A o fis Rhagfyr 2022 yn briodol; ac a oedd ymateb y Practis i gŵyn Ms A (gan gynnwys y penderfyniad i wrthod triniaeth bellach) yn briodol ac yn unol â’r canllawiau perthnasol.

Canfu’r ymchwiliad ei bod yn annhebygol bod triniaeth y Practis (yn benodol, deintydd yn gwneud addasiadau bach i ddant drwy ei lyfnhau neu ei ffeilio) wedi achosi’r problemau achludo (brathiad) y cwynodd Ms A amdanynt ac felly ni chafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau. Fodd bynnag, canfu fod yr ymatebion i’r gŵyn a roddwyd i Ms A pan gododd bryderon am hyn yn fyr iawn ac nad oedd yn ateb unrhyw un o’i chwestiynau penodol. Canfu hefyd, er mai’r rheswm dros wrthod trin Ms A ymhellach ar ôl iddi wneud cwyn oedd oherwydd bod y berthynas wedi chwalu, ni chafodd eglurhad pam roedd hyn yn berthnasol i’r holl ddeintyddion yn y Practis pan nad oedd ond wedi cwyno am y driniaeth a roddwyd iddi gan 1 deintydd penodol. Roedd y diffygion hyn yn gwrth-ddweud y canllawiau perthnasol. Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad, er bod y berthynas rhwng y Practis a Ms A wedi dirywio yn y pen draw i’r pwynt lle’r oedd penderfyniad y Practis i wrthod triniaeth bellach i Ms A a’i thynnu fel claf yn gyfiawnadwy, collwyd cyfleoedd i atal y berthynas rhag dirywio i’r graddau hyn. Felly, cafodd yr elfen hon ar y gŵyn ei chadarnhau.

Argymhellodd yr ymchwiliad y dylai’r Practis ysgrifennu at Ms A yn ymddiheuro’n ffurfiol am y materion a nodwyd a chynnig taliad o £500 iddi i gydnabod yr ymatebion is na’r safon i’w chŵyn.