Dyddiad yr Adroddiad

02/05/2024

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol

Pwnc

Triniaeth glinigol y tu allan i'r ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202308011

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y practis deintyddol wedi ymateb yn llawn i bob agwedd ar ei gŵyn, a gyflwynwyd iddo ym mis Awst 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y practis deintyddol wedi methu ag ymateb yn llawn i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y practis deintyddol i gyhoeddi ymateb ysgrifenedig pellach i Mr X i fynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd yn ei gŵyn wreiddiol.