Cwynodd Miss C am Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Y gŵyn a oedd yn destun ymchwiliad oedd a oedd y Feddygfa Deulu, rhwng Ebrill ac Awst 2024, wedi trefnu ymchwiliadau/archwiliadau priodol yn glinigol mewn ymateb i symptomau a gyflwynwyd gan Miss C a hanes y claf.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod rheolaeth a gofal cyffredinol y Feddygfa Deulu o Miss C mewn perthynas â’i phroblemau yn ymwneud â’i phen-glin yn ystod y cyfnod dan sylw o safon glinigol briodol ac yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Yn unol â hynny, ni chadarnhawyd cwyn Miss C.