Dyddiad yr Adroddiad

25/11/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202503834

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Bractis Meddygol Roseneath mewn perthynas â’i hiechyd meddwl ac am y camau a gymerwyd mewn perthynas ag adroddiad asesiad seicolegol preifat. Cwynodd Ms A ymhellach am y ffordd y cafodd ei chŵyn ei thrin a dywedodd nad oedd ymateb y Practis i’r gŵyn yn mynd i’r afael â’i phryderon.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Practis ymateb i gŵyn Ms A ac nad oedd hi wedi derbyn ymateb digonol i’w chŵyn. Dioddefodd Ms A anghyfleustra oherwydd gweithredoedd y Practis, a oedd wedi achosi rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Practis, o fewn 4 wythnos, i ailystyried cwyn Ms A, rhoi ymateb pellach iddi i’r gŵyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gyda’r Practis a’r Ombwdsmon a hefyd rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A am y methiant i fynd i’r afael â’i phryderon yn ddigonol yn ei ymateb cychwynnol i’r gŵyn.