Cwynodd Mr C nad oedd Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Practis”) wedi sicrhau bod presgripsiynau ei dad, Mr A, wedi’u prosesu’n gywir ac mewn modd amserol. Cwynodd ymhellach nad oedd y Practis wedi delio â’i gwynion yn unol â Rheoliadau’r GIG (Trefniadau Pryderon ac Iawndal) (Cymru) 2011 a’r canllawiau cysylltiedig.
Canfu’r Ombwdsmon fod gwallau ac anghysondebau wedi bod yn aml yn y ffordd y prosesodd y Practis bresgripsiynau Mr A dros gyfnod o 14 mis. Achosodd y gwallau oedi wrth gyflenwi’r offer meddygol yr oedd ei angen ar Mr A. Roedd safon y cadw cofnodion yn wael ac wedi llesteirio effeithiolrwydd y Practis wrth fonitro sut roedd presgripsiynau’n cael eu prosesu. Nid oedd gan y Practis weithdrefn gwyno gyfoes, ac roedd wedi methu â chydnabod ac ymateb yn ddigonol i gwynion Mr C. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Mr C.
Cytunodd y Practis i ysgrifennu at Mr C i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd a chymryd camau i sicrhau bod presgripsiynau Mr A yn cael eu prosesu’n gywir yn y dyfodol. Cytunodd hefyd i gynnal archwiliad o achosion tebyg, adolygu ei weithdrefnau rheoli cofnodion a chwynion, a darparu hyfforddiant i staff sy’n ymwneud â thrin cwynion.