Dyddiad yr Adroddiad

01/08/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd lechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202207891

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar frawd, Mr A, gan Feddygfa Deulu (“y Feddygfa”) yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Feddygfa wedi colli cyfleoedd i gynnal ymchwiliadau neu wneud atgyfeiriadau yn gynharach a fyddai wedi caniatáu i haemocromatosis Mr A (cyflwr etifeddol lle mae lefelau haearn yn y corff yn cronni’n araf dros flynyddoedd lawer sydd, heb ei drin, yn gallu niweidio rhannau o’r corff fel yr iau/afu, y cymalau, y pancreas, a’r galon) i gael diagnosis a thriniaeth yn gynt.

Ni chanfu’r ymchwiliad ddim tystiolaeth bod y Feddygfa wedi colli unrhyw gyfleoedd i ganfod haemocromatosis Mr A yn gynharach. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.