Dyddiad yr Adroddiad

08/14/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd lechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202302190

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr K, er ei fod wedi lleisio pryderon â’r Practis Meddyg Teulu, nad oedd wedi cael ymateb llawn.

Er bod y Practis wedi ymateb i bryderon Mr K, canfu’r Ombwdsmon nad oedd wedi rhoi sylw i’r holl bryderon a godwyd. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr K. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis Meddyg Teulu i ymddiheuro i Mr K am yr oedi cyn ymateb i’w bryderon, ac i roi ymateb llawn i’r gŵyn iddo o fewn 30 diwrnod gwaith.