Dyddiad yr Adroddiad

06/16/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202200545

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr W am y gofal a gafodd ei fam, Mrs Y, gan ei Phractis Meddyg Teulu. Yn benodol, cwynodd Mr W fod y Practis wedi colli cyfleoedd i roi diagnosis o ganser y pancreas ar gyfer Mrs Y.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y gofal a ddarparwyd i Mrs Y ar 13 Ebrill 2021 yn is na’r safonau disgwyliedig oherwydd bod methiant i gynnal asesiadau clinigol priodol. Ni wnaeth hyn, ar y cyfan, achosi oedi cyn gwneud diagnosis o ganser y pancreas ar gyfer Mrs Y ac nid effeithiodd ar ei salwch. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad y byddai’r gofal annigonol wedi achosi gofid ychwanegol i Mrs Y a’i theulu ac wedi golygu, efallai, na chafodd y cyfle i gael gofal diwedd oes yn ei chartref. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis ymddiheuro i Mr W, rhannu copi o adroddiad yr ymchwiliad â’r meddyg teulu dan sylw, a chwblhau cynllun gweithredu i ddangos ei fod wedi cymryd camau priodol i ddysgu gwersi o’r methiannau a nodwyd. Roedd yr Ombwdsmon yn falch bod y Practis wedi cytuno i weithredu’r argymhellion hyn.