Dyddiad yr Adroddiad

06/01/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202106480

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Fe wnaethom ymchwilio i gŵyn a wnaethpwyd gan Mr A yn ymwneud â’r driniaeth a gafodd gan Bractis Meddygon Teulu (“y Practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, o fis Tachwedd 2020 ymlaen. Yn benodol, i weld a oedd triniaeth Mr A gan y Practis yn briodol yng ngoleuni ei symptomau a’r hanes meddygol a oedd ar gael.

Ar sail y wybodaeth a welwyd a’r cyngor a gafwyd, gwelsom fod y driniaeth a roddwyd i Mr A gan y Practis o fis Tachwedd 2020 ymlaen (tan ddechrau ein hymchwiliad) yn briodol yng ngoleuni ei symptomau a’r hanes meddygol sydd ar gael. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon nad oedd y gofal a gafodd Mr A, o ran yr ymchwiliadau a gynhaliwyd a’r atgyfeiriadau a wnaed, yn is na safon briodol. Felly, ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.