Dyddiad yr Adroddiad

06/22/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202105165

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Feddygfa Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn benodol, cododd Mr X bryderon am y gofal a’r driniaeth a gafodd mewn perthynas â rheoli poen cronig a lleihau dos ei opioid dyddiol; problemau gyda’r coluddyn; a phroblemau gyda’r asgwrn cefn a’r greuan.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr X yn rhesymol ym mhob elfen.

Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion. Gan na nodwyd unrhyw fethiant, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhellion ynghylch y gŵyn hon.