Dyddiad yr Adroddiad

27/05/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202500409

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Mr A gwyno ynghylch mynediad at apwyntiad mewn Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dywedodd na fu modd iddo gael apwyntiad rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2024. Dywedodd Mr A ei fod yn pryderu ynghylch y gofal a thriniaeth parhaus sydd ar gael iddo ac ynghylch yr ymateb a gafodd gan y Practis pan fu iddo gwyno am y mater hwn.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Practis wedi darparu ymatebion i Mr A, nad oeddent yn bodloni’r safonau disgwyliedig a nodir yn y trefniadau Gweithio i Wella, a’i fod yn dal i fod yn ansicr ynghylch rhai agweddau ar y gofal a’r driniaeth sydd ar gael iddo. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn na chafodd Mr A ymateb llawn i’w gŵyn a bu iddi gysylltu â’r Practis. Cytunodd y Practis i gymryd y camau a ganlyn i ddatrys y gŵyn fel dewis amgen yn hytrach na chael ymchwiliad ffurfiol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Practis gytuno i fynd ati cyn pen pedair wythnos, yn unol â’r trefniadau Gweithio i Wella, i ymchwilio ac i ymateb yn llwyr i’r pryderon a fynegwyd gan Mr A yn ei gŵyn ynghylch y Practis. Cytunodd y Practis i wneud hyn.