Dyddiad yr Adroddiad

18/12/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202406857

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd y Practis wedi ymateb i’w neges ebost dyddiedig 24 Tachwedd mewn perthynas â’i phryderon ynglŷn â’i diagnosis o ddisg torgestol.

 

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd y Practis wedi ymateb i’r neges ebost.  Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Practis ymddiheuro am yr esgeulustod, yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd, ac ymateb i’r neges ebost perthnasol o fewn 3 wythnos, a chytunodd y Practis i wneud hynny.