Dyddiad yr Adroddiad

23/12/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202402868

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms P nad oedd staff nyrsio yn y Feddygfa wedi gofalu’n briodol am ei chlwyfau rhwng mis Mehefin a mis Awst 2023 ac na roddwyd sylw i’r risg o haint. Cwynodd hefyd nad oedd staff nyrsio wedi gofyn am fewnbwn ychwanegol ar adegau priodol. Dywedodd Ms P fod ei chlwyfau wedi cymryd mwy o amser i wella nag y dylent fod wedi’i wneud.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod ei chlwyfau’n cael gofal priodol, eu bod wedi rhoi sylw i’r risg o haint a bod mewnbwn ychwanegol wedi’i geisio ar adegau priodol.

Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.