Dyddiad yr Adroddiad

07/25/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202202071

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X, er iddo gyflwyno cwyn i’w feddyg teulu ynghylch materion yn ymwneud â’i bresgripsiwn, nad oedd wedi cael ymateb na datrysiad i’w gŵyn eto.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb gan ei feddyg teulu eto, ac felly cysylltodd â’r meddyg teulu. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y meddyg teulu y byddai’n ymddiheuro i Mr X am yr oedi wrth ymateb i’w bryderon ac y byddai’n rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol iddo erbyn 8 Awst 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X.