Cwynodd Miss A fod y Feddygfa wedi methu ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Hydref 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi methu ystyried y gŵyn drwy’r weithdrefn gwyno ac wedi methu ymateb yn ffurfiol i Miss A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Feddygfa, o fewn 4 wythnos, roi ymateb ffurfiol i’r gŵyn, a hwnnw hefyd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi wrth ymateb. Cytunodd y Feddygfa i wneud hynny.