Dyddiad yr Adroddiad

27/10/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202501265

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Practis wedi defnyddio ei Bolisi Dim Goddefgarwch i’w dynnu oddi ar restr y Practis oherwydd iddo gyflwyno cwyn ffurfiol. Dywedodd Mr A fod y Practis wedi rhoi’r manylion cyswllt anghywir iddo i gyflwyno ei gŵyn. Disgrifiodd orfod gwneud sawl ymgais i gael y manylion cywir i gyflwyno ei bryderon.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Practis wedi dogfennu ei resymau dros dynnu Mr A oddi ar restr y Practis, ond methodd â’i hysbysu o’r rhesymau yn ysgrifenedig ar y pryd. Er bod y Practis wedi cydnabod ei fod wedi rhoi’r manylion cyswllt anghywir i Mr A i gyflwyno ei gŵyn, nid oedd wedi cydnabod na mynd i’r afael â’r anawsterau a oedd ganddo wrth geisio cael y manylion cywir. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ymddiheuro i Mr A am fethu â’i hysbysu yn ysgrifenedig o’r rhesymau pam y cafodd ei dynnu oddi ar restr y Practis ar y pryd, ac am fethu â chydnabod na mynd i’r afael â’r anawsterau a oedd ganddo wrth gael y manylion cyswllt cywir i gyflwyno ei gŵyn. Cytunodd y Practis hefyd i sicrhau bod manylion cyswllt perthnasol ar gael yn ei Bolisi Cwynion, ac i gadarnhau gyda’r Bwrdd Iechyd y broses a’r cyfrifoldeb o hysbysu cleifion o’r rhesymau dros eu tynnu oddi ar restr y Practis.